P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nathan Lee Davies, ar ôl casglu 324 o lofnodion ar-lein a 307 ar bapur – cyfanswm o 631 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Fel rhywun sy'n cael Grant Byw'n
Annibynnol Cymru ac yn ymgyrchu dros bobl anabl, rwy'n bwriadu
gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried ei phenderfyniad i roi'r gorau
i Grant Byw'n Annibynnol Cymru o fis Ebrill 2019
ymlaen.
Cyflwynwyd Grant Byw'n Annibynnol Cymru i helpu pobl a oedd yn
arfer hawlio arian gan Gronfa Byw'n Annibynnol Llywodraeth y DU, a
gaewyd yn 2015. Mae'r cynllun yn helpu mwy na 1,500 o bobl
ledled Cymru. Mae gan bawb sy'n cael y Grant lefel uchel o
anghenion gofal a chymorth.
Y bwriad oedd rhoi'r gorau i'r cynllun ym mis Mawrth 2017, ond ym
mis Tachwedd, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog gwasanaethau
cymdeithasol, y byddai'r cyllid yn parhau am flwyddyn arall.
Yna, bydd y gronfa £27 miliwn yn cael ei throsglwyddo'n
uniongyrchol i awdurdodau lleol yn ystod 2018-19 fel y gallant
ddiwallu anghenion cymorth y rhai a oedd yn arfer cael arian drwy'r
Gronfa Byw'n Annibynnol erbyn 31 Mawrth 2019.
Gwybodaeth ychwanegol:
Pam yr ydym yn gwrthwynebu'r penderfyniad:
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y penderfyniad wedi'i wneud ar sail cyngor gan randdeiliaid. Cynrychiolwyr o'r trydydd sector neu ddinasyddion oedd y mwyafrif ar y grŵp rhanddeiliaid. Ond nid oeddynt eisiau cael gwared ar Grant Byw'n Annibynnol Cymru, a'r pwynt allwedd ol yw na chafodd ein cyngor ei dderbyn.
Dylid cofio hefyd nad oes yn rhaid rhoi'r gorau i Grant Byw'n
Annibynnol Cymru, ac mae llwyddiant Cronfa Byw'n Annibynnol yr
Alban yn brawf o hynny; sydd hefyd yn ddadl o blaid cefnogi Cronfa
Byw'n Annibynnol Gogledd Iwerddon.
At hyn ny, roedd maniffesto poblogaidd y blaid Lafur yn nodi
cynlluniau i sefydlu system ofal gene dlaethol a fyddai'n
annibynnol ar awdurdodai lleol.
Dyma'r union amser y dylai'r Blaid Lafur uno yn erbyn y
Torïaid ar faterion o'r fath. Rhaid i ni gwestiynu pam nad yw
Plaid Lafur Cymru yn chwarae ei rhan wrth newid y tirlun
gwleidyddol?
Yn wir, yn y pen draw, dylem fod yn anelu at sefydlu Cronfa Byw'n
Annibynnol i Gymru fel nad oes yn rhaid i unrhyw berson anabl
ddioddef yr ansicrwydd a'r unigedd a wynebir gan y rheini sy'n cael
Grant Byw'n Annibynnol Cymru ar hyn o bryd. Ni allwn ddechrau credu
bod gwir gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb i bawb yn bosibl
oni fydd Llafur Cymru yn ailystyried ei benderfyniad ynghylch Grant
Byw'n Annibynnol Cymru.
Mae'n siŵr y bydd Llafur Cymru yn dadlau y dylem roi cyfle i
Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) lwyddo. Fodd
bynnag, mae angen buddsoddiad ac adnoddau sylweddol ar y Ddeddf
ddelfrydyddol hon i sicrhau ei bod yn llwyddo – ac nid oes
dim golwg o'r gwelliannau sydd eu hangen ar ein seilwaith er mwyn
sicrhau bod y Ddeddf yn llwyddo. Efallai'n wir ei bod yn bryd
cael chwyldro yn y ffordd y darperir gofal cymdeithasol, ond
gallai'r fath drawsnewid gymryd degawd neu ragor, ac nid yw'r rhai
sy'n derbyn Grant Byw'n Annibynnol Cymru yn haeddu cael eu trin fel
arbrawf pan fo'u hanghenion o ran gofal a chymorth yn gofyn am
sefydlogrwydd a strwythur hirdymor.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Wrecsam
· Gogledd Cymru